Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2025

Amser: 09.00 - 09.36
 


Remote / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais am bleidlais drwy ddirprwy gan Lesley Griffiths, i’w chyflawni gan Jane Hutt, ar gyfer y cyfnod rhwng 3 Chwefror a 3 Mawrth 2025.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Paul Davies yn gofyn cwestiynau Arweinwyr y Pleidiau yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw ar ran Darren Millar. 

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd i ychwanegu’r eitemau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 –

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl fer: Hannah Blythyn AS (Delyn) (30 munud)

 

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl. Mynegodd Heledd Fychan ei chefnogaeth i amserlennu cynnig gan Sioned Williams ar y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes drwy fwyafrif i amserlennu’r cynigion canlynol i’w trafod:

 

12 Chwefror

 

Jenny Rathbone

NNDM8814 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi: 

a) er gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl; 

b) bod mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet; 

c) bod cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person; 

d) y gall ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac 

e) bod pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) datblygu strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl; 

b) hyrwyddo manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth; 

c) defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru; 

d) cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd; ac 

e) defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. 

 

5 Mawrth

 

Mark Isherwood

NNDM8734 

Cynnig bod y Senedd 

1. Yn nodi: 

a) yr angen i ddarparwyr gwasanaethau ddiwallu anghenion y gymuned fyddar; 

b) bod pobl sy’n byw â cholled clyw yn wynebu anfantais difrifol o gymharu â phobl nad yw hynny’n effeithio ar eu clyw; 

c) mai Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw’r dull cyfathrebu a ffefrir gan lawer o bobl fyddar; a 

d) pryder ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â bwrw ymlaen â chymhwyster TGAU iaith arwyddion. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: 

a) i sicrhau bod y tasglu hawliau pobl anabl yn mynd ati’n benodol i nodi’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau pobl fyddar; a 

b)i ymwneud yn fwy â’r gymuned fyddar i ganfod beth yw eu hanghenion. 

 

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y diweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a, fel y trafodwyd yn ei gyfarfod blaenorol, nododd bod Memorandwm Atodol arall (Rhif 6) bellach wedi cael ei osod ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) yn dilyn gwelliannau a wnaed i’r Bil yng Nghyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin. Gan nad yw’r amserlen ar gyfer craffu ar y Bil yn Senedd y DU yn caniatáu ar gyfer ystyried barn y Senedd ar gydsyniad ar gyfer y gwelliannau diweddaraf, roedd y Pwyllgor Busnes wedi cytuno’n flaenorol i beidio â chyfeirio’r Memorandwm Atodol (Rhif 6) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) i bwyllgorau ar gyfer craffu, ond nododd bod pwyllgorau'n parhau i allu trafod a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol pe baent yn dewis hynny.

 

</AI9>

<AI10>

4.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig).

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

</AI10>

<AI11>

5       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

5.1   Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch Rheol Sefydlog Dros Dro 35

Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch newid posibl i Reol Sefydlog 35, sy’n gysylltiedig â’r Pwyllgor hwnnw, ynghylch llwon a chadarnhadau. 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ysgrifennu yn ôl at Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i ofyn am eglurhad ar yr union gais ac i ddychwelyd i ystyried y mater ymhellach unwaith y bydd ymateb wedi dod i law.

 

</AI12>

<AI13>

6       Gwaith Gweithdrefnol

</AI13>

<AI14>

6.1   Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch Rheolau Sefydlog ar gyfer y Seithfed Senedd: Categorïau o Aelodau

Nododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer y Seithfed Senedd mewn perthynas â’r categoriau o Aelodau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i ystyried cynigion terfynol i ddiwygio Rheolau Sefydlog yn ddiweddarach, yng ngoleuni gwelliannau posibl eraill ac unrhyw argymhellion neu gasgliadau a wneir gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol.

 

</AI14>

<AI15>

7       Unrhyw faterion eraill

Nododd y Llywydd ei bod wedi cael sylwadau gan sawl Aelod ynghylch y Pwyllgor Busnes yn enwebu Rhys ab Owen AS fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y mater a dychwelyd ato yn y cyfarfod canlynol.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>